Session 11: Use of Welsh

Ar ôl cyrraedd y maes parcio yng Nghwm Porth, cymerwch y llwybr troed sy`n disgyn i Borth yr Ogof

        After arriving at the car park at Cwm Porth, take the footpath which descends to Porth yr Ogof

Yma mae Afon Mellte yn mynd i mewn i gyfres o geudyllau ac yn llifo o dan y ddaear am chwarter milltir

         Here the River Mellte enters a series of caverns and flows underground for quarter of a mile

Dychwelwch yn ôl i`r maes parcio a chroesi`r ffordd i ymuno â llwybr troed ar hyd y dyffryn calchfaen sych a oedd unwaith yn gwrs yr afon

         Return to the car park and cross the road to join a footpath along the dry limestone valley which was once the course of the river

Byddwch yn pasio twll mawr yn y ddaear gyda ffens o`i gwmpas

         You will pass a large hole in the ground with a fence around it

Mae hyn yn arwain i lawr i`r afon yn yr ogof islaw

         This leads down to the river in the cave below

Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i`r man lle mae`r afon yn dod allan o`i llwybr tanddaearol

         Continue along the path to the place where the river emerges from its underground route

Croeswch i`r ddôl laswelltog ar y dde i ddilyn yr afon

         Cross into the grassy meadow on the right to follow the river

Trowch i ffwrdd i`r dde yn y coetir i weld Sgwd y Pannwr, rhaeadr lydan drawiadol

         Turn off right in the woodland to see Sgwd y Pannwr, an impressive wide waterfall

Dilynwch y llwybr garw i fyny`r afon i Sgwd Isaf Clun-gwyn

         Follow the rough path upstream to Sgwd Isaf Clun-gwyn

Mewn rhai mannau mae`r llwybr yn cynnwys dringo dros greigiau heb lwybr amlwg

         In some places the route involves climbing over rocks with no obvious path

Dychwelwch ar hyd yr un llwybr i Sgwd y Pannwr

         Return along the same path to Sgwd y Pannwr

Parhewch i lawr yr afon nes i chi gyrraedd llwybr sy`n disgyn i`r ceunant dwfn trwy gyfres hir o risiau

         Continue downstream until you reach a path which descends into the deep ravine by a long series of steps

Wrth lan yr afon, dringwch dros y creigiau i gyrraedd rhaeadr ysblennydd Sgwd yr Eira

         At the river bank, climb over the rocks to reach the spectacular waterfall of Sgwd yr Eira

Mae llwybr yn rhedeg ar hyd wyneb y clogwyn y tu ôl i`r rhaeadr

         A path runs along the cliff face behind the waterfall

Gallwch sefyll y tu ôl i`r llen o ddŵr sy`n disgyn dros y rhaeadr

         You can stand behind the curtain of water which is falling over the waterfall

Dychwelwch yn ôl i`r maes parcio ar hyd y llwybr uniongyrchol

         Return to the car park along the direct path